Dewch o hyd i'ch ffordd nôl i'r gwaith

English |

Find your way back to work

Dewch o hyd i’ch ffordd nôl i’r gwaith

Os ydych yn chwilio am waith, angen awgrymiadau ar wneud cais am swyddi a chyfweliadau neu am ddatblygu eich sgiliau, cewch amrywiaeth o gymorth a chyngor yma.

Bydd bod yn ymwybodol o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o chwilio am waith yn eich helpu i ddod o hyd i swydd yn yr amser byrraf posibl. Cewch gyngor ar-lein ar sut a lle i chwilio am swyddi a’r ffordd orau o ymdrin â chyflogwyr.

Lle i chwilio am swyddi – cyngor gan y Ganolfan Byd Gwaith

Mae mwy i ddod o hyd i swydd na chwilio am swyddi gwag. Bydd yr Hyfforddwr Swyddi yn cynnig pum ffordd allweddol o wella eich chwiliad swydd - a gallwch hefyd gael cyngor ar sut i gadw’n iach wrth chwilio am swydd.

Hyfforddwr Swyddi – pum cam i ddod o hyd i waith