Dewch o hyd i'ch ffordd nôl i'r gwaith

English |

Dod o hyd i waith

Hyfforddwr Swyddi: pum cam i'ch helpu i fynd nôl i'r gwaith

JobcoachMae chwilio am waith yn golygu mwy na dim ond chwilio am swyddi. Mae angen i chi hefyd ystyried eich hun yn y ffordd gywir a meddwl am ffyrdd o wneud pethau'n wahanol.

 

Can't see the video?

To play this video you need Adobe Flash Player version 9 or higher on your computer and have JavaScript enabled on your browser. Our Help with video files page gives advice if you are unsure how to do this. The Flash software is free.

Cyngor gorau i chwilio am waith

Cyngor ar y ffordd orau i chwilio am waith

Lawrlwythwch y fideo (.mov - 21.3MB)

Cymraeg PDF


Gweld mwy o fideos Ymgynghorwyr y Ganolfan Byd Gwaith:

Weithiau bydd ceiswyr gwaith yn mynd i rigol am nad ydynt yn sylweddoli bod ffyrdd gwahanol o wneud pethau - boed hynny'n ymwneud â chanfod ffyrdd newydd o ailwerthu eich profiad i gyflogwr newydd, ystyried y ffordd y gallwch ail-lunio eich CV, neu gadw mewn cysylltiad amlach â'ch ffrindiau.

Dyma ein pum prif awgrym o ran gwella eich dull o chwilio am waith a dechrau meddwl amdanoch chi eich hun a'ch gallu mewn ffyrdd gwahanol.

1. Cynlluniwch y ffordd y byddwch yn chwilio am swydd yn ofalus

Paratowch gynllun yn nodi ble, sut a phryd rydych yn chwilio am waith, er mwyn gwneud yn siŵr eich bod wedi ystyried yr opsiynau i gyd. Gwnewch nodyn o'r cyflogwyr rydych wedi cysylltu â hwy, yr ymatebion a'r llwyddiant a gawsoch.

Cynllunio i chwilio am waith

2. Gwnewch y gorau o'ch sgiliau - neu dysgwch rai newydd!

Gall cydnabod yr amrywiaeth o sgiliau sydd gennych a sut y gallwch eu cymhwyso i swyddi eraill ehangu eich chwiliad gwaith a gwella eich siawns o ddod o hyd i waith. Dysgwch am y sgiliau sydd gennych eisoes a sut i wneud y gorau ohonynt drwy ddilyn y dolenni isod.

Does dim ots am ba hyd rydych wedi bod yn ddi-waith, gall gwella'r sgiliau sydd gennych eisoes, neu hyfforddi i ddysgu rhai newydd, roi mantais fawr i chi pan fyddwch yn chwilio am waith a gall helpu i hoelio sylw cyflogwyr. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyfforddiant a'r cymorth sydd ar gael defnyddiwch y ddolen isod.

Mwy am ddysgu i oedolion a gwella eich sgiliau

3. Dysgwch sut i 'werthu' eich hun i ddarpar gyflogwyr

Yn y farchnad swyddi heddiw, mae'n bwysig sicrhau eich bod yn serennu ymysg ymgeiswyr eraill. Gallwch wneud hyn drwy:

  • teilwra eich CV ar gyfer pob cais – defnyddiwch strwythur sylfaenol y gellir ei newid yn hawdd i ddangos sut mae eich sgiliau a'ch profiad yn cyfateb i'r swydd benodol rydych yn gwneud cais amdani
  • cadw ceisiadau'n fyr, yn gryno ac yn hawdd eu darllen
  • paratoi'n dda ar gyfer cyfweliadau – trefnwch sut y byddwch yn cyrraedd yno, meddyliwch am gwestiynau posibl y gellid eu gofyn i chi a cheisiwch wella eich sgiliau cyfathrebu a chyflwyno
  • gofyn am adborth gan gyflogwyr i ganfod beth aeth yn dda neu beth y gallech ei wneud yn wahanol yn eich cais neu gyfweliad nesaf

4. Ceisiwch ddianc o'r rhigol a dod o hyd i waith

Os yw'r broses o chwilio am waith yn cymryd mwy o amser na'r disgwyl, neu os ydych yn teimlo eich bod yn gwneud popeth posibl a hynny'n ofer, yna dilynwch y ddolen isod i ganfod sut y gallwch fireinio eich sgiliau chwilio am waith.

Dianc o'r rhigol a dod o hyd i waith

5. Yn olaf, cofiwch ofalu amdanoch chi eich hun

Mae'n bwysig eich bod yn gofalu amdanoch chi eich hun ac yn cadw'n brysur tra byddwch yn chwilio am waith. Bydd cadw'n iach a gorffwys yn golygu eich bod bob amser yn barod ar gyfer cyfweliadau. Mae'n bosibl y byddwch hyd yn oed am ystyried gwneud gwaith gwirfoddol er mwyn gwella eich sgiliau a dysgu rhai newydd.

Dilynwch y ddolen isod i gael awgrymiadau ar sut i gynnal cymhelliant, aros yn iach a chadw'n brysur tra byddwch yn chwilio am waith.

Cadw'n bositif ac yn iach i weithio

Dolenni ychwanegol